Dechreuodd Côr Meibion Rhos ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn gynnar yr wythnos hon gyda chyngerdd yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion.
Roedd perfformiad Chwefror 24 yn neuadd gyngerdd y coleg fel gwesteion Cymdeithas Cymry Manceinion, ynghyd â chôr arall o Rhos - Ger y Ffin - a myfyrwyr dawnus o'r coleg.
Talodd y cyfarwyddwr cerddorol cynorthwyol Kevin Whitley deyrnged i berfformiad y ddau gôr - a ddaeth i ben gyda pherfformiad ryfeddol o Calon Lân a Mae Hen Wlad Fy Nhadau (yn y llun).
Meddai Kevin: "Roedd yn anrhydedd mawr i dderbyn y gwahoddiad i gymryd rhan yng nghyngerdd Dewi Sant blynyddol Cymdeithas Cymry Manceinion, ac i gael blas ar rai o'r bobl ifanc talentog iawn sy'n astudio yn yr RNCM."
Yn ogystal â'r ddau gôr, roedd y gynulleidfa wedi mwynhau cyfraniadau gan y tenor Cymraeg Ryan Davies, myfyriwr yn y coleg, a'r pianydd 22 oed, Iwan Owen o Ynys Môn.
Bu myfyrwyr Tsieineaidd, Aaron Ma a Shimeng Sun, yn perfformio 'Scenes of Childhood' John Thomas gyda'i gilydd ar y delyn Gymreig.