01 Jun
01Jun

Cyngerdd codi arian i Dŷ'r Eos

Mae Côr Meibion Rhos wedi helpu i godi arian gwerthfawr ar gyfer Tŷ'r Eos mewn cyngerdd yn Eglwys All Saints, Rhostyllen. Wrth ochr Côr Meibion Rhos yn y cyngerdd oedd côr Ysgol Gynradd Rhostyllen a Seren Devismes, unwdydd soprano talentog. Roedd y cyngerdd - a gynhaliwyd ar 8fed Mehefin - yn lwyddiant ysgubol, dywedodd y cyfarwyddwr cerddorol RMVC, James Llewelyn Jones. Dwedodd ef:

"Roedd yn fraint wych i'r côr gael ei wahodd i ganu yn Rhostyllen gyda grŵp mor dalentog o gantorion ifanc, a chynulleidfa mor werthfawrogol. Roeddem hefyd wrth ein boddau i ymuno â Seren Devismes. Dim ond 17 yw hi ond mae eisoes yn berfformiwr dawnus a chyflawn iawn."

Yn ogystal â'u perfformiadau unigol, ymunodd Côr Meibion Rhos a Chôr Ysgol Gynradd Rhostyllen ar ddiwedd y cyngerdd i ganu "Calon Lan".

Sylwadau
* Ni fydd yr e-bost yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.