Belting!
Cyngerdd gwych. Sain gwych. Acwsteg anhygoel yn y Stiwt. Côr o'r radd flaenaf ac roedd llais soprano Menna Cazel yno gyda'r 'gorau'. Heb glywed 'Amens' a 'Hen Wlad Fy Nhadau wedi eu canu'n well.
Hoffwn ddweud fy mod yng nghyngerdd Dewi Sant neithiwr yn y Stiwt am y tro cyntaf a meddyliais fod naws a chydbwysedd y lleisiau yn anhygoel. Cyngerdd gwych. Byddwn hefyd yn dweud bod Menna Cazel (unawdydd gwadd) yn wych.
Am berfformiad gwych gan y Cor! Roedd y clod yn canu yn ystod yr egwyl ac ar ddiwedd y perfformiad. Mae'n dweud y cwbl na ddaeth y cymeradwyaeth i ben tan i aelod olaf y Cor adael yr awditoriwm. Roedd y rhaglen yn berffaith ar gyfer yr achlysur...
...Cefais fy syfrdanu gan eich perfformiad...cefais ias gan ba mor dynn oeddech yn rhythmig, pa mor grimp oedd yr harmonïau a pha mor reoledig oedd y symudiad deinamig, heb sôn am fod gennych gantorion pwerus. Roedd yn brofiad emosiynol iawn ac roedd yr holl awyrgylch, o gyfansoddiad yr ystafell (Theatr y Stiwt) i guradu'r rhaglen, yn hud a lledrith...roedd yn brofiad hynod bersonol i mi ac nid anghofiaf byth.
Diolch o galon am eich perfformiad gwych...bydd yn aros gyda ni am byth. Roedd yn wirioneddol arbennig.
Ar ran fy nheulu a minnau, dymunaf ddioch i chi gyd am berfformiad gwych. Chi oedd uchafbwynt y noson a'r prif bwynt siarad! Felly diolch o galon am wneud y noson yn hudol a chofiadwy.
Wyddoch chi ddim pa mor wych oedd gweld a chlywed y bois yn canu neithiwr. Hwn oedd uchafbwynt fy nhaith ac roedd pawb, PAWB, wedi gwirioni efo'r perfformiad.
Diolch yn fawr iawn am adael i mi ddod â fy ffrindiau o UDA i weld yr ymarfer nos Lun. Roedd yn brofiad hollol anhygoel a dyma oedd uchafbwynt eu taith i'r DU. Yr unig ffordd gallaf ddisgrifio plethiad lleisiau'r côr yw nefolaidd a rhaid i mi gyfaddef bod deigryn yn fy llygad pan berfformiodd y côr yr emyn ar ddiwedd yr ymarfer; roedd yn wirioneddol wych. Fe wnaeth fy ngŵr a minnau ei fwynhau gymaint rydym wedi archebu tocynnau ar gyfer y cyngerdd blynyddol ... rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr ato.
Roedden ni i gyd wrth ein bodd, yn falch ac yn ddedwydd gyda'r digwyddiad cyfan (Cyngerdd Blynyddol) ... Wedi'i lunio mor broffesiynol. Perfformiadau mor wefreiddiol ... Rydym yn bwriadu dod eto a pharhau i gefnogi côr mor arbennig ac ansawdd uchel ... Côr teilwng o safon o'r radd flaenaf!
Rydym bellach yn deall pam yr ystyrir mai Côr Meibion Rhos yw'r prif gôr yng Nghymru. O'r cychwyn cyntaf, roedd yr holl berfformiad yn wefreiddiol...nid oedd gennym syniad pa mor bwerus y gallai'r perfformiad fod. Diolch yn fawr am noson fythgofiadwy.
Diolch am y noson fendigedig yng Nghadeirlan Ripon heno. Roedd yn achlysur gwirioneddol gofiadwy - gyda rhaglen hyfryd. Roedd y côr a'r unawdwyr (gan gynnwys y ddeuawd a'r pedwarawd) yn ardderchog. Cafodd fy ffrind a minnau noson fendigedig yn y cyngerdd hudol hwnnw.
Mae'n debyg y cyngerdd blynyddol gorau erioed. Gwych! Roedd yr unawdwyr yn eithriadol. Am awyrgylch. Caru'r darn Affricanaidd! Y cyngerdd oedd yr ail ddigwyddiad gwych heddiw-yn dilyn canlyniad y gêm gynharach!!
Roeddwn i... yn eich cyngerdd yn ysgol Amwythig ar nos Wener (28ain)-dim ond eisiau dweud pa mor bwerus a boddhaol iawn oedd eich perfformiadau-sain gwych ac ymrwymiad i'r gerddoriaeth. Teimlo'n gyfoethocach wrth wrando arnoch. Diolch! Dymuniadau gorau i lawer mwy o gyngherddau bendigedig.