Mae Côr Meibion Rhos yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 mlwydd oed
Roedd cyngerdd blynyddol eleni yn ffordd addas i Gôr Meibion Rhos ddathlu ei phen-blwydd yn 125 mlwydd oed. Dyma'r cyngerdd blynyddol cyntaf dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd newydd, James Llywelyn Jones, a ddywedodd ei fod wedi bod yn heriol a chyffrous:
"Rwy'n credu bod y gynulleidfa yn mwynhau ein cymysgedd o'r cyfarwydd a'r newydd. Mae'r côr wedi gweithio'n hynod o galed dros y misoedd diwethaf i roi cyngerdd a adlewyrchodd y 125 mlynedd diwethaf. Ein thema ar gyfer y noson oedd 125 mlynedd o gerddoriaeth gogoneddus - ac roedd yn gyfle addas i ni gofio gydag anwyldeb a diolch i holl gyn-aelodau'r côr, yn ogystal â'r rhai sydd wedi arwain a chyfeilio i'r côr dros y blynyddoedd."
Ymhlith yr eitemau newydd yn repertoire y côr oedd "Gweddi Affricanaidd", trefniant gan y cyfansoddwr Cymreig Eric Jones o anthem De Affrica N'kosi Sikeli Affrica, a'r gân werin Israel "Hava Nagila". Dywedodd y pianydd cyngerdd ryngwladol, Llŷr Williams, ei fod wedi mwynhau "dod adref" i Wrecsam yn llwyr - ac i chwarae eto gyda Chôr Meibion Rhos yr oedd ef unwaith yn cyfeilio ar eu cyfer pan oedd yn dal yn yr ysgol.
Roedd y gynulleidfa hefyd wedi mwynhau cyfraniadau ail unawdydd y noson, mezzo soprano Eirlys Myfanwy Davies. Dywedodd ysgrifennydd y côr, Geraint Phillips:
"Roedd hwn yn noson wych o gerddoriaeth. Mae'n rhaid i ni ddiolch i'n unawdwyr, Llŷr ac Eirlys. Aethont tu hwnt i'n disgwyliadau gan wneud hwn yn gyngerdd gwirioneddol gofiadwy. Diolch hefyd i James Llywelyn Jones ac i Kevin Whitley am eu hymdrechion diflino a brwdfrydedd parhaus."