Dathlu Dydd Gwyl Dewi Sant
Doedd dim ond un lle i fod ar y penwythnos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a dyna oedd Theatr Stiwt Rhos. Gwesteion Côr Meibion Rhos yng nghyngerdd gala nos Wener oedd Cantorion Sirenian o Wrecsam. Mwynhaodd gynulleidfa o 300 a mwy detholiad o gerddoriaeth Gymreig traddodiadol a chlasuron corawl.
Uchafbwynt y noson oedd pan ddaeth y ddau gor i'r llwyfan i ganu ynghyd Emyn Pasg Pietro Mascagni o Gavellaria Rusticana, dan arweinyddiaeth cyfarwyddwr cerddorol Cantorion Sirenian, Jean Stanley Jones.
Dywedodd cyfarwyddwr cerdd Côr Meibion Rhos, James Llewelyn Jones, cyn aelod o Gantorion Sirenian, ei fod yn falch iawn o gael ei ail-uno â'i gyn-gantorion. Dwedodd:
"Dyma oedd fy nghyngerdd Dydd Gŵyl Dewi cyntaf gyda Chôr Meibion Rhos ers cymryd drosodd y llynedd fel cyfarwyddwr cerddorol a roeddwn yn falch iawn o allu rhannu'r llwyfan gyda Chantorion Sirenian. Mae gennyf gymaint o atgofion hapus o'm hamser gyda hwy ac roedd hi'n wych gweld cymaint o hen ffrindiau."
Meddai ysgrifennydd Côr Meibion Rhos, Geraint Phillips:
"Mae cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yn y Stiwt wedi dod yn draddodiad i'r côr yr ydym oll yn ei fwynhau'n fawr. Roeddem wrth ein bodd eleni y gallai Cantorion Sirenian ymuno â ni am gyngerdd fendigedig yr oedd y gynulleidfa wedi ei fwynhau yn fawr. "