Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth ein Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd a Chyfeilydd, Kevin Whitley.Kevin oedd cyfeilydd y côr am 28 mlynedd ac yn ystod ei wasanaeth hir i’r côr, gwnaeth lawer o ffrindiau. Chwaraeodd ei ymroddiad a'i sgil gerddorol ran bwysig yn y llwyddiannau y mae'r côr wedi'u mwynhau yn ystod ei amser. Yn ddiweddarach, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cerdd, gan gamu i’r adwy pan oedd angen i arwain y côr, weithiau ar fyr rybudd. Fel bob amser, perfformiodd Kevin hyn gyda phroffesiynoldeb ac uniondeb. Roedd ei hiwmor a'i natur gyfeillgar yn ei wneud yn aelod poblogaidd o'r côr. Dymuna'r côr estyn cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Kevin.