Ymwelwyd â ni yn ein hymarfer ar ddydd Llun 8 Gorffennaf gan griw ffilmio o Siapan. Maent yn creu rhaglenni ar bob un o genhedloedd Cwpan Rygbi'r Byd, ac ar ôl darganfod am dreftadaeth corawl Cymru, dewison nhw ddod i'n ffilmio a chyfweld rhai o'n haelodau. Gwylir y rhaglen deledu gan 3m o wylwyr ar gyfartaledd yn Siapan a chaiff ei darlledu yn ystod Cwpan y Byd yn yr Hydref.