21 Oct
21Oct

Aeth Côr Meibion Rhos yn ôl i Much Wenlock ar y penwythnos - hanner can mlynedd ar ôl cyngerdd a ysbrydolodd drigolion tref Sir Amwythig i ffurfio eu côr meibion eu hunain.

Côr Rhos oedd gwesteion anrhydeddus mewn cyngerdd i nodi 50 mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Much Wenlock.

Ffurfiwyd Côr Much Wenlock ym 1968 ar ôl cyngerdd yn ysgol uwchradd y dref gan Gôr Meibion Rhos.

Ac roedd pum aelod o Rhos ar y llwyfan ddydd Sadwrn a oedd yn rhan o'r côr ysbrydoledig honno o 1968: Glyn Jones, Gareth Pritchard, Emyr Jones, Jim Davies a Dai Lloyd.

Meddai ysgrifennydd Côr Rhos, Geraint Phillips: "Roeddem yn falch o gael ein gwahodd yn ôl i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Côr Meibion Much Wenlock.

"Nid oedd gan y rhan fwyaf o'n haelodau iau ddim syniad o'r cysylltiad rhwng y ddau gôr - ond roedd yn lwybr cof go iawn ar gyfer y pum gwreiddiol."

Roedd cyngerdd 1968 yn neuadd Ysgol William Brookes - sydd wedi ei ddymchwel a'i hailadeiladu ers hynny gan ymgorffori'r theatr ddiweddaraf yng Nghanolfan y Celfyddydau Edge.

Roedd y ddau gôr yn perfformio ochr yn ochr yn y cyngerdd gan berfformio uchafbwyntiau eu repertoire eu hunain - a bu'r ddau gôr yn perfformio nifer o ddarnau poblogaidd gyda'i gilydd.

Roedd y darnau ar y cyd yn cynnwys trefniant o "For the Fallen", y gerdd gan Laurence Binyon a ddefnyddiwyd mewn gwasanaethau coffa.

Meddai James Llewelyn Jones, cyfarwyddwr cerddorol Rhos: "Roedd yn gyngerdd wych ac mae'n ryfeddol meddwl bod cyngerdd gan y côr 50 mlynedd yn ôl mewn neuadd ysgol wedi ysbrydoli'r dynion lleol i ffurfio eu côr eu hunain.

"Roedd yn amlwg bod y gynulleidfa'n mwynhau'r ddau gor - ac roedd y canu yn y bar wedi ychwanegu at beth oedd yn ddathliad gwych."

Sylwadau
* Ni fydd yr e-bost yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.