19 Dec
19Dec

Dim ond neges gyflym yw hon i ddymuno'r gorau i'n holl gefnogwyr dros gyfnod yr ŵyl. Rydym wedi cael blwyddyn brysur gyda llawer o wahanol gyngherddau a digwyddiadau, ac rydym yn falch o fod wedi gallu codi sawl mil o bunnoedd i elusen hefyd.


Mae gennym flwyddyn brysur arall o'n blaenau y flwyddyn nesaf. Gallwch ddod o hyd i fanylion ein holl gyngherddau ar y wefan - cofiwch edrych yn ôl yn rheolaidd wrth i'r wefan gael ei diweddaru gyda newyddion a digwyddiadau. Uchod mae'r hysbyseb ar gyfer ein cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi yn Theatr y Stiwt, Rhos. Os ydych yn prynu'ch tocynnau cyn diwedd mis Ionawr, gallwch eu cael am y pris gostyngol o £10 yr un. Ewch i'n tudalen Dyddiadau Cyngherddau i gael rhagor o fanylion.


Diolch am eich cefnogaeth barhaus. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Sylwadau
* Ni fydd yr e-bost yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.