14 Oct
14Oct

Gan farcio can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd cyngerdd blynyddol Côr Meibion Rhos yn deyrnged unigryw i'r rhai a gollodd eu bywydau ganrif yn ôl.

Roedd y rhaglen ar gyfer y cyngerdd, yn Neuadd William Aston yn Wrecsam ar 13eg Hydref, yn cynnwys darnau a ddewiswyd yn arbennig i goffáu canmlwyddiant a Gwasanaeth Coffa gyda gorymdaith aelodau Lleng Brydeinig Brenhinol lleol.

Darllenodd actor a anwyd yn Rhos, Mark Lewis Jones, gerdd Carol Anne Duffy, "The Christmas Truce" ac aelod o'r côr a'r pastor lleol, Joshua Roberts, y Ddeddf Goffa.

Bydd Mark Lewis Jones yn gyfarwydd i wylwyr teledu o raglenni fel Game of Thrones, Keeping Faith a llawer mwy. Dywedodd: "Roedd yn anrhydedd i gael gofyn i mi gymryd rhan yn yr achlysur arbennig hwn. Roedd yn anhygoel clywed Côr Meibion Rhos a braint i rannu'r llwyfan gyda nhw i nodi'r pen-blwydd pwysig hwn. "

Canodd y côr yr emyn Gymreig poblogaidd Llef (Deus Salutis) a'r weddi Hebraeg "Ose Shalom" (He Who Brings Peace) yn ogystal â threfniant teimladwy o gerdd Laurence Binyon "For the Fallen".

Dywedodd y cyfarwyddwr cerddorol, James Llewelyn Jones: "Roeddem eisiau gwneud rhywbeth arbennig iawn i nodi canmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf, roeddem wrth ein bodd i allu croesawu aelodau lleol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol i gymryd rhan.

Uchafbwynt arall y cyngerdd ar gyfer cynulleidfa lawn oedd unawdwyr "Tra Bo'Dau" - Tenoriaid Cymreig Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies - a ymunodd efo'r côr yn ail hanner y cyngerdd mewn medley a drefnwyd yn arbennig o Les Miserables.

Dywedodd Rhys Meirion wedyn: "Roedd yn anrhydedd mawr i ganu yng nghyngerdd Côr Meibion Rhos - maent yn griw mawr o bobl ac yn creu sain wych. Fe wnaeth Aled a minnau fwynhau ein noson yn fawr "

Dywedodd James Llewelyn Jones: "Bu'n ychydig o flynyddoedd ers i'r côr gynnwys caneuono Les Mis yn y repertoire ac mae'n amlwg yn rhywbeth sy'n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd a'r côr."

Diolchodd James i bob un o'r côr a'r unwdwyr am eu hymdrechion. Talodd deyrnged arbennig i'r ysgrifennydd cyngherddau Austin Thomas: "Mae'n rhaid i ni ddiolch i Austin am yr oriau di-rif mae o wedi buddsoddi i sicrhau bod y noson yn llwyddiant mor fawr.

"Roedd yr adborth a gawsom gan y gynulleidfa - cefnogwyr ffyddlon a'r rhai sy'n clywed y côr am y tro cyntaf - yn rhagorol."

Sylwadau
* Ni fydd yr e-bost yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.