TRA BOD Y GWYNT yn gwneud ei orau y tu allan, Côr Meibion Rhosllannerchrugog a gododd do Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog yn ystod eu cyngerdd Dydd Gwyl Dewi Sant blynyddol ar ddydd Sadwrn 29ain Chwefror. Cafodd cynulleidfa fawr, werthfawrogol gyfle i wrando ar a mwynhau amrywiaeth eang o gerddoriaeth gyda blas Chymreig - gan gynnwys ‘March of the Men of Harlech’, ‘Delilah’, ‘Cwm Rhondda’ a ‘Gwahoddiad’. Ymunodd mezzo-soprano lleol, Angharad Lyddon, â'r côr ar y llwyfan. Ymddangosodd Angharad yn Canwr y Byd Caerdydd 2019. Perfformiodd Angharad, hefyd, ddetholiad eang o ddarnau, yn operatig a modern, i swyno'r gynulleidfa. Ymunodd â'r côr hefyd ar gyfer rhai eitemau ar y cyd a brofodd i fod yn boblogaidd ymhlith y gynulleidfa.
Mae mwy o wybodaeth am y côr ar ei wefan - rmvc.co.uk. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r côr ddod i ymarfer - byddem wrth ein bodd yn eich gweld. Rydyn ni'n ymarfer nos Lun yn Theatr y Stiwt, Rhos a nos Iau yng Nghapel Bethel, Chapel Street, Ponciau. Bydd yr ymarferion yn dechrau am 7.15pm.