Cawsom y fraint o groesawu Vitalii i'n hymarfer ddydd Llun. Mae'n ffoadur o'r Wcráin sy'n aros gydag un o'n haelodau. Dysgodd y côr anthem genedlaethol yr Wcrain er mwyn rhoi croeso cynnes iddo yn ogystal â dangos ein cefnogaeth. Mae o yn y llun (ar y dde) ochr yn ochr â'n Cadeirydd, Gary Pugh.